top of page

Urdd Cam i’r Bannau Trail Run

RESULTS: click 5k or 10k to download race results

E lenni, rydym yn helpu’r Urdd i godi arian ar gyfer Eisteddfod 2018.

Byddwn yn cynnal ras newydd sbon oddi ar y ffordd. Bydd hyd y llwybrau tua 5K a thua 10K ar hyd rhai o olygfeydd godidog Bannau Brycheiniog. Dewch i ymuno a rhoi cynnig arni. Croeso i bawb o bob gallu.

Pryd mae’r ras?

Cynhelir y ras Ddydd Sul 8 Hydref 2017

Rasys 5k a 10 k yn dechrau am 11am.

Rhaid i bob rhedwr gofrestru a chasglu rhif erbyn 10.30.

 

Y Daith  

Mae’r rasys yn dechrau a gorffen yng Nghanolfan Ymwelwyr Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog – a adnabyddir yn lleol fel y “Ganolfan Fynydd”.

 

Bydd natur donnog i’r daith a fydd yn dilyn llwybrau glaswelltog ar draws tir comin. Rydym wedi dewis llwybrau a fydd yn galluogi rhedwyr i fwynhau golygfeydd ysblennydd y Bannau heb redeg i fyny unrhyw elltydd rhy serth! Mae’r llwybr 10k yn fwy heriol gan gynnwys y piler triongli ar Fynydd Illtyd.  Bydd y llwybrau wedi eu nodi a bydd marsialiaid ar hyd y daith felly ni fydd angen i chi fordwyo. Download ROUTE MAP

 

Nid ydw i erioed wedi rasio o’r blaen, fydda i’n gallu ei wneud?

WRTH GWRS Y BYDDWCH! – Rydym yn croesawu pawb o bob gallu, o’r raswyr cyntaf erioed, i’r rhedwyr clwb profiadol. Bydd digon o ddechreuwyr llwyr yn cymryd rhan felly dewch draw a rhowch gynnig arni.  Os ydych yn bryderus o gwbl, yna mae croeso i chi anfon e-bost atom ag unrhyw gwestiynau.

 

Sut ydw i’n cofrestru?

​PRE-ENTRY HAS NOW CLOSED. THERE WILL BE 'ON THE DAY' ENTRY IF SPACE PERMITS. WE'LL DO OUR VERY BEST, BUT CAN'T GUARANTEE YOU A RACE PRIZE & MEDAL IF YOU ENTER ON THE DAY!

Registration will take place at the Mountain Centre: 10:15 - 10:45.​

 

Faint ydy e’n costio?

Rhedwyr Clwb  - £13

Rhedwyr di-glwb - £15                             Cofrestru ar y diwrnod - £15

 

Beth ddylwn i ei wisgo?

Mae’n fis Hydref, felly dylech gadw hynny mewn cof wrth ddewis eich dillad ar gyfer y ras. Sicrhewch eich bod wedi ymbaratoi a’ch bod yn gwisgo dillad sy’n eich gweddu chi. Mae pawb yn wahanol, felly ni ddylech fod o dan bwysau i wisgo gormod neu ddim digon o ddillad gan bobl o’ch cwmpas. Fodd bynnag, mae’n hanfodol bod cit sych a chynnes gennych ar ôl gorffen. Gan nad yw’r daith ar hyd ffyrdd rydym yn eich cynghori i wisgo esgidiau priodol ar gyfer rhedeg. Ni fydd angen unrhyw beth rhy “ymosodol” arnoch.

Oes cyfyngiad oedran?

Oes.

Rhaid i redwyr 5k fod dros 11.

Rhaid i redwyr 10k fod dros 15.  

Bydd rhaid i’r holl redwyr sy’n iau na 18 gael caniatâd oedolyn (wedi ei arwyddo) i gymryd rhan.

 

Fydda’ i’n derbyn medal?

Byddwch .  Bydd pawb sy’n gorffen y ras yn derbyn medal y ras. Bydd gwobrau pellach ar gyfer enillwyr gwahanol gategorïau.

 

Fydd yna rasys i blant?

Bydd, fe gynhelir ras fer i blant yn y Ganolfan Fynydd. Mae croeso i bawb o dan 11 gymryd rhan. Bydd angen cofrestru ar y diwrnod ar gyfer yr holl rasys i blant

 

www.meithrinschoolrun.com

Becca Jones - 07717510975

bottom of page